Yr Amgylchiadau

5.  Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw bod Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar y Dyddiad Ad-dalu—

(a)nad yw’r benthyciwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998,

(b)nad oes gan y benthyciwr gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath, ac

(c)na ddilëwyd (gan gynnwys dilead o £0.00) o dan un o’r Rheoliadau a restrir yn yr Atodlen unrhyw atebolrwydd sydd gan y benthyciwr i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru.